I Grombil Cyfandir Pell

Yn 2012 bum ar daith o gyngherddau ymchwil i grombil yr Unol Daleithiau yn dilyn taith flaenorol yr anturiaethwr John Evans – perthynas pell i mi or Waunfawr.

Gadawodd Evans (Ieuan ap Ifan iw fam) Eryri yn 1792, gan hwylio i Baltimore cyn ymgolli i’r gwyll ar daith gerdded hirfaith yn y gobaith o ddarganfod Y Madogwys – llwyth brodorol o siaradwyr Cymraeg a disgynyddion honedig y tywysog Madog a ‘ddarganfyddodd’ America yn 1170. Dros gyfnod o saith mlynedd a sawl antur anghredadwy yn chwilio am y llwyth chwedlonol cafodd ddylanwad syfrdanol ar ddaearyddiaeth gogledd America. Dylanwad pell-gyrhaeddol sy’n parhau hyd heddiw.

Dilynais ei lwybr o’r dinasoedd dwyreiniol, ar hyd dyffryn yr Ohio, ac i fyny afon y Mississippi. Yn St Louis ymunodd fy nghyfaill Kliph Scurlock or Gwefusau Tanllyd a’r daith, ac ar ol teithio rhan o’r Missouri mewn cwch sigledig fe ddechreusom recordio record hir yn ninas Omaha gyda’r bonheddwr Mike Mogis, cyn hwylio mlaen i diriogaethau cenhedloedd gwreiddiol yr UMOnHOn a’r Mandaniaid. Dyma’r llwythi a gysgododd Evans rhag llawer tymhestl ddwy ganrif ynghynt. Cofnododd Dylan Goch – cyfarwyddwr y ffilm ‘Separado!’ – y daith gyfan ar gyfer dogfen newydd a elwir ‘I Grombil Cyfandir Pell.’ Wedi dychwelyd i Walia dêg ysgrifennais lyfr yn fy ail iaith o dan y teitl ‘American Interior’ yn ogystal a record hir amlieithog or un enw. Bydd Ap yn cyd-fynd fel cydymaith i’r gwrthrychau uchod.

Ni welwyd John Evans ers 1799. Erbyn hynny roedd yn byw yn nhiriogaeth Spaeneg yr America yn arddel yr enw Don Juan Evans. Byddaf yn teithio Cymru, gan cychwyn y gwanwyn hwn, yn adrodd ei hanes mewn ffurf caneuon. Ac yn ceisio ateb y posau canlynol:

A ddarganfyddodd Evans y llwyth colledig Cymreig? Ble claddwyd ef? Beth sy’n cyflyru pobl i adael eu cynefin ag ymgolli eu hunain mewn anturiaethau ffôl boed yn ryfela, celfyddyd neu hyd yn oed gystadlaethau sponcen rhyngwladol?

Atebion i hyn oll, a mwy! Yn y nwyddau isod: I Grombil Cyfandir Pell ag American Interior. Ar gael ar bob dyfais fecanyddol o dan haul o fis Mai ymlaen.

Diolch am ddarllen yr uchod, ac ysdywed John Evans:

‘Y Madogwys Neu Angau’