Llyfr

Allan Nawr!

American Interior Book

Yn 1792, teithiodd John Evans, gwas ffarm dwy ar hugain oed o Eryri, Cymru, i America i ddarganfod a oedd – yn ôl y gred gyffredinol – lwyth brodorol o Indiaid oedd yn siarad Cymraeg yn bodoli ar y gwastadeddau mawr, sef y Madogwys.

Yn ystod yr antur anhygoel hon, bu John yn reslo gyda’r ymlusgiaid afon mwyaf a welwyd erioed yn y Mississippi, yn hela beison gyda llwyth yr Omaha, yn trosglwyddo’i wrogaeth o blaid y Sbaenwyr yn St.Louis, yn llwyddo i fachu North Dakota oddi wrth y Prydeinwyr, ac yn creu’r map a arweiniodd Lewis a Clark are u hirdaith chwedlonol.

Yn ystod haf 2012, aildroediodd Gruff Rhys – ac yntau’n ddisgynnydd pell i John Evans – lwybr y fforiwr drwy gallon y cyfandir drwy gyfrwng ‘Taith Gyngerdd Ymchwilgar TM’ – cyfres o berfformiadau unigol gyda fawr mwy na gitâr acwstig yn gyfeiliant, cyflwyniad PowerPoint ac ymgnawdoliad ffelt llathen o hyd o John Evans.

Yn gofnod ardderchog o ddwy odyssey’r ddeuddyn, mae AMERICAN INTERIOR yn archwilio sut mae ffantasïau rhemplyd yn cydweithio gyda ffeithiau hanesyddol, a sut y gall creu chwedlau ysbrydoli pobl i ddilyn llwybrau gwallgof ac ofer am barch a bri, gan gynnwys fforio, rhyfel a’r celfyddydau creadigol.

Mae llyfr American Interior, ar gael mewn sawl ffurf clawr caled, clawr medal, e-lyfr (Penguin), yn un rhan o brosiect aml-lwyfan arloesol sy’n ymestyn ar draws y byd, gan gyrraedd silffoedd siopau llyfr Prydain ar 8fed o Fai, 2014. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys ffilm (ie ie Productions), ac albwm unigol Gruff Rhys o draciau o’r ffilm (Turnstile) ac ap – am hanes Don Juan Evans, wedi’i ysgrifennu gan Gruff (Penguin). Byddent yn cael eu rhyddhau ym mis Mai, 2014.

Tanysgrifwch am gipolwg a'r newyddion diweddaraf.

Adolygiadau

  • A joyous and poignant celebration of the mythical and the real

  • A charming and entertainingly written book

  • The most comprehensive study yet of this strange historical figure

  • Written in an exuberant, entertaining style, American Interior is alive to the quixotic nature of Evans's quest, while offering a sideways look at the nexus between history and myth

  • A story about gullibility, contradiction, ambition, inexplicable wanderlust . . . this brilliantly life-affirming book highlights a world of wonder far beyond orthodox history

American Interior Book