Noson Agoriadol American Interior, Caerdydd

Close up Chapter blog

Noson Agoriadol American Interior, Am Y Tro Cyntaf Yn Ewrop, Heno!

Bydd y ffilm ddogfen American Interior gan Dylan Goch a Gruff Rhys yn cael ei harddangos yn gyhoeddus heno am y tro cyntaf yn Ewrop.

Diolch i ganolfan y Chapter am ein gwahodd.

Bydd yr artist gweledol Phil Collins yn cyflwyno’r noson ac yn holi y tîm cyfarwyddo ar ôl i’r taflunydd ddiffodd am y noson.

Bydd mwy o bethau difyr a dirgel yn digwydd yn ddi-os!